Diarhebion 30:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau,rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.

7. Gofynnaf am ddau beth gennyt;paid â'u gwrthod cyn imi farw:

8. symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf;paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth;portha fi â'm dogn o fwyd,

9. rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu,a dweud, “Pwy yw'r ARGLWYDD?”Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr,a gwneud drwg i enw fy Nuw.

Diarhebion 30