Diarhebion 30:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Geiriau Agur fab Jaceh o Massa. Dyma'i eiriau i Ithiel, i Ithiel ac Ucal:

2. Yr wyf yn fwy anwar na neb;nid oes deall dynol gennyf.

3. Ni ddysgais ddoethineb,ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd.

4. Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn?Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn?Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg?Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear?Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?

Diarhebion 30