Diarhebion 3:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun;ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.

8. Bydd hyn yn iechyd i'th gorff,ac yn faeth i'th esgyrn.

9. Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth,ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch.

10. Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn,a'th gafnau'n gorlifo gan win.

11. Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD,a phaid â digio wrth ei gerydd;

12. oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD,fel tad sy'n hoff o'i blentyn.

13. Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,a'r un sy'n berchen deall.

14. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,a'i chynnyrch yn well nag aur.

15. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau,ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.

Diarhebion 3