Diarhebion 26:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Fel aderyn y to yn hedfan, neu wennol yn gwibio,felly ni chyflawnir melltith ddiachos.

3. Chwip i geffyl, ffrwyn i asyn,a gwialen i gefn ffyliaid!

4. Paid ag ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,rhag i ti fynd yn debyg iddo.

5. Ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun.

6. Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffŵlyn torri ymaith ei draed ei hun ac yn profi trais.

7. Fel coesau'r cloff yn honcian,felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.

Diarhebion 26