Diarhebion 25:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Fel y mae'r nefoedd yn uchel a'r ddaear yn ddwfn,felly ni ellir chwilio calonnau brenhinoedd.

4. Symud yr amhuredd o'r arian,a daw'n llestr yn llaw'r gof.

5. Symud y drygionus o ŵydd y brenin,a sefydlir ei orsedd mewn cyfiawnder.

6. Paid ag ymddyrchafu yng ngŵydd y brenin,na sefyll yn lle'r mawrion,

7. oherwydd gwell yw cael dweud wrthyt am symud i fyny,na'th symud i lawr i wneud lle i bendefig.

Diarhebion 25