Diarhebion 23:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Os tynni dy lygaid oddi arno, y mae'n diflannu,oherwydd y mae'n magu adenydd,fel eryr yn hedfan i'r awyr.

6. Paid â bwyta gyda neb cybyddlyd,na chwennych ei ddanteithion,

7. oherwydd bydd hynny fel blewyn yn ei lwnc;bydd yn dweud wrthyt, “Bwyta ac yf”,ond ni fydd yn meddwl hynny.

8. Byddi'n chwydu'r tameidiau a fwyteaist,ac yn gwastraffu dy ganmoliaeth.

9. Paid â llefaru yng nghlyw'r ffŵl,oherwydd bydd yn dirmygu synnwyr dy eiriau.

Diarhebion 23