Diarhebion 23:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Y mae'r butain fel pwll dwfn,a'r ddynes estron fel pydew cul;

28. y mae'n llercian fel lleidr,ac yn amlhau'r godinebwyr ymysg dynion.

29. Pwy sy'n cael gwae? Pwy sy'n cael gofid?Pwy sy'n cael ymryson a chŵyn?Pwy sy'n cael poen yn ddiachos,a chochni llygaid?

30. Y rhai sy'n oedi uwchben gwin,ac yn dod i brofi gwin wedi ei gymysgu.

Diarhebion 23