Diarhebion 22:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion,a gosod dy feddwl ar fy neall;

18. oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon,ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau.

19. Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDDyr wyf yn eu dysgu iti heddiw—ie, i ti!

Diarhebion 22