Diarhebion 22:15-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn,ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho.

16. Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun,ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen.

17. Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion,a gosod dy feddwl ar fy neall;

18. oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon,ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau.

19. Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDDyr wyf yn eu dysgu iti heddiw—ie, i ti!

20. Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau,yn llawn cyngor a deall,

21. i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir,fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd?

22. Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd,a phaid â sathru'r anghenus yn y porth;

Diarhebion 22