Diarhebion 22:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer,a gwell yw parch nag arian ac aur.

2. Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd:yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau.

3. Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.

4. Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDDyw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.

5. Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig,ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt.

Diarhebion 22