Diarhebion 20:23-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau,ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus.

24. Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl;sut y gall neb ddeall ei ffordd?

25. Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll,ac yna dechrau ystyried ar ôl gwneud addunedau.

26. Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus,ac yn troi'r rhod yn eu herbyn.

27. Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl,i chwilio i ddyfnderau eu bod.

28. Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin,a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch.

29. Gogoniant yr ifainc yw eu nerth,ac addurn i'r hen yw penwynni.

30. Y mae taro i'r byw yn gwella drwg,a dyrnodiau yn iacháu rhywun drwyddo.

Diarhebion 20