Diarhebion 20:10-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau,y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

11. Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanca yw ei waith yn bur ac yn uniawn.

12. Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld,yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau.

13. Paid â bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd;cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd.

14. “Gwael iawn,” meddai'r prynwr;ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen.

15. Y mae digonedd o aur ac o emau,ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf.

16. Cymer wisg y sawl sy'n mechnïo dros estron,a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.

17. Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll,ond yn y diwedd llenwir ei geg â graean.

18. Sicrheir cynlluniau trwy gyngor;rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel.

19. Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach;paid â chyfeillachu â'r llac ei dafod.

20. Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam,diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew.

21. Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau,ni bydd bendith ar ei diwedd.

22. Paid â dweud, “Talaf y pwyth yn ôl”;disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam.

23. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau,ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus.

24. Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl;sut y gall neb ddeall ei ffordd?

25. Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll,ac yna dechrau ystyried ar ôl gwneud addunedau.

26. Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus,ac yn troi'r rhod yn eu herbyn.

Diarhebion 20