Diarhebion 2:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei ôl,ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd.

20. Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da,a chadw at lwybrau'r cyfiawn.

21. Oherwydd y rhai cyfiawn a drig yn y tir,a'r rhai cywir a gaiff aros ynddo;

22. ond torrir y rhai drwg o'r tir,a diwreiddir y twyllwyr ohono.

Diarhebion 2