Diarhebion 2:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fy mab, os derbynni fy ngeiriau,a thrysori fy ngorchmynion,

2. a gwrando'n astud ar ddoethineb,a rhoi dy feddwl ar ddeall;

3. os gelwi am ddeall,a chodi dy lais am wybodaeth,

4. a chwilio amdani fel am arian,a chloddio amdani fel am drysor—

5. yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD,a chael gwybodaeth o Dduw.

6. Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb,ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall.

Diarhebion 2