Diarhebion 19:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ffolineb rhywun sy'n difetha'i ffordd,ond yn erbyn yr ARGLWYDD y mae'n dal dig.

4. Y mae cyfoeth yn amlhau cyfeillion,ond colli ei gyfaill y mae'r tlawd.

5. Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,ac ni ddianc yr un sy'n dweud celwydd.

6. Y mae llawer yn ceisio ffafr pendefig,a phawb yn gyfaill i'r sawl sy'n rhoi.

7. Y mae holl frodyr y tlawd yn ei gasáu;gymaint mwy y pellha'i gyfeillion oddi wrtho!Y mae'n eu dilyn â geiriau, ond nid ydynt yno.

8. Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd,a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni.

9. Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,a difethir yr un sy'n dweud celwydd.

Diarhebion 19