Diarhebion 19:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Daw cosb ar y gwyllt ei dymer;er iti ei helpu, rhaid gwneud hynny eto.

20. Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth,er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd.

21. Niferus yw bwriadau meddwl pobl,ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll.

22. Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch,a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog.

23. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd,a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed.

Diarhebion 19