Diarhebion 12:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus,ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu.

7. Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt,ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn.

8. Canmolir rhywun ar sail ei ddeall,ond gwawdir y meddwl troëdig.

9. Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid,na bod yn ymffrostgar a heb fwyd.

10. Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail,ond y mae'r drygionus yn ddidostur.

11. Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr.

Diarhebion 12