Diarhebion 12:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Erys geiriau gwir am byth,ond ymadrodd celwyddog am eiliad.

20. Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg,ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch.

21. Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn,ond bydd y drygionus yn llawn helbul.

22. Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd.

Diarhebion 12