Diarhebion 11:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,ond pwysau cywir wrth ei fodd.

2. Yn dilyn balchder fe ddaw amarch,ond gyda'r rhai gwylaidd y mae doethineb.

3. Y mae eu gonestrwydd yn arwain yr uniawn,ond eu gwyrni eu hunain yn difa'r twyllwyr.

4. Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter,ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau.

5. Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union,ond cwympa'r drygionus trwy ei ddrygioni.

Diarhebion 11