Deuteronomium 9:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Rhoddodd yr ARGLWYDD imi y ddwy lechen, llechau yr ysgrifennwyd arnynt gan fys Duw, ac arnynt yr oedd yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y tân ar y mynydd ar ddydd y cynulliad.

11. Ar ddiwedd y deugain diwrnod a deugain nos, rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r ddwy lechen, llechau'r cyfamod,

12. a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cod, dos i lawr ar unwaith o'r mynydd hwn, oherwydd y mae dy bobl, a ddygaist allan o'r Aifft, wedi gwneud peth llygredig; y maent wedi rhuthro i droi o'r ffordd a orchmynnais iddynt, ac wedi gwneud iddynt eu hunain ddelw dawdd.”

Deuteronomium 9