Deuteronomium 4:13-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Mynegodd i chwi ei gyfamod, sef y deg gorchymyn yr oedd yn eu gorchymyn i chwi eu cadw, ac ysgrifennodd hwy ar ddwy lechen.

14. Yr adeg honno gorchmynnodd yr ARGLWYDD i mi ddysgu ichwi'r deddfau a'r gorchmynion, er mwyn ichwi eu cadw yn y wlad yr oeddech yn mynd iddi i'w meddiannu.

15. Gan na welsoch unrhyw ffurf, y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y tân yn Horeb,

16. gofalwch beidio â gweithredu'n llygredig trwy wneud i chwi eich hunain ddelw ar ffurf unrhyw fath ar gerflun, na ffurf dyn na gwraig,

17. nac unrhyw anifail ar y ddaear, nac unrhyw aderyn sy'n hedfan yn yr awyr,

18. nac unrhyw beth sy'n ymlusgo ar y ddaear, nac unrhyw bysgodyn sydd yn y dŵr dan y ddaear.

19. Gwylia hefyd na fyddi'n codi dy olwg i'r nefoedd ac edrych ar yr haul, y lleuad neu'r sêr, holl lu'r nefoedd, a chael dy ddenu i ymgrymu iddynt a'u haddoli; neilltuodd yr ARGLWYDD dy Dduw y rhain ar gyfer yr holl bobloedd dan y nefoedd.

20. Ond cymerodd yr ARGLWYDD chwi, a daeth â chwi allan o'r ffwrnais haearn, o'r Aifft, i fod yn bobl sy'n etifeddiaeth iddo'i hun, fel yr ydych heddiw.

21. Yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyf o'ch achos chwi, a thyngodd na chawn groesi'r Iorddonen, na mynd i mewn i'r wlad dda y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi yn feddiant iti.

Deuteronomium 4