Deuteronomium 33:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r fendith ar blant Israel a gyhoeddodd Moses gŵr Duw, cyn ei farw:

2. Cododd yr ARGLWYDD o Sinaia gwawriodd arnynt o Seir;disgleiriodd o Fynydd Parana dod â myrddiynau o Cades,o'r de, o lethrau'r mynyddoedd.

3. Yn ddiau, y mae'n caru ei bobl,a'i holl saint sydd yn ei law;plygant yn isel wrth ei draeda derbyn ei ddysgeidiaeth,

4. y gyfraith a orchmynnodd Moses inni,yn etifeddiaeth i gynulliad Jacob.

5. Gwnaed ef yn frenin ar Jesurunpan ymgasglodd penaethiaid y bobl,a phan ddaeth llwythau Israel ynghyd.

Deuteronomium 33