Deuteronomium 32:41-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

41. os hogaf fy nghleddyf disglair,a chydio ynddo â'm llaw mewn barn,byddaf yn dial ar fy ngwrthwynebwyrac yn talu'r pwyth i'r rhai sy'n fy nghasáu.

42. Gwnaf fy saethau yn feddw â gwaed,a bydd fy nghleddyf yn bwyta cnawd,sef gwaed y clwyfedig a'r carcharorion,a phennau arweinwyr y gelyn.”

43. Bloeddiwch fawl ei bobl, O genhedloedd,oherwydd y mae'n dial gwaed ei weision!Daw â dial ar ei wrthwynebwyr,ac arbed ei dir a'i bobl ei hun.

44. Wedi i Moses ddod gyda Josua fab Nun, llefarodd holl eiriau'r gerdd hon yng nghlyw'r bobl.

45. Pan orffennodd Moses lefaru'r holl eiriau hyn wrth Israel gyfan,

Deuteronomium 32