Deuteronomium 32:26-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. “Fy mwriad oedd eu gwasgaru,a pheri i bob coffa amdanynt ddarfod,

27. oni bai imi ofni y byddai'r gelyn yn eu gwawdio,a'u gwrthwynebwyr yn camddealla dweud, ‘Ein llaw ni sydd wedi trechu;nid yr ARGLWYDD a wnaeth hyn oll.’ ”

28. Cenedl brin o gyngor ydynt,heb ddealltwriaeth ganddynt;

29. gresyn na fyddent yn ddigon doeth i sylweddoli hynac i amgyffred beth fydd eu diwedd!

30. Sut y gall un ymlid mil,neu ddau yrru myrdd ar ffo,oni bai fod eu Craig wedi eu gwerthu,a'r ARGLWYDD wedi eu caethiwo?

31. Oherwydd nid yw eu craig hwy yn debyg i'n Craig ni,fel y mae ein gelynion yn cydnabod.

Deuteronomium 32