13. Y mae eu plant hefyd, nad ydynt yn ei gwybod, i wrando arni a dysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw tra byddant yn byw yn y tir yr wyt yn croesi'r Iorddonen i'w feddiannu.”
14. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Y mae dydd dy farw yn nesáu; galw Josua, a chymerwch eich lle ym mhabell y cyfarfod, er mwyn imi roi gorchymyn iddo.” Wedi i Moses a Josua fynd a chymryd eu lle ym mhabell y cyfarfod,
15. ymddangosodd yr ARGLWYDD yn y babell mewn colofn gwmwl, a safodd y golofn gwmwl wrth ddrws y babell.
16. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Gyda hyn byddi'n mynd i orwedd gyda'th hynafiaid, a bydd y bobl hyn yn dechrau puteinio ar ôl duwiau dieithr y wlad y maent yn mynd i mewn iddi; byddant yn fy ngwrthod i, ac yn torri fy nghyfamod a wneuthum â hwy.
17. Yna fe enynnir fy nig yn eu herbyn, a byddaf finnau yn eu gwrthod ac yn cuddio fy wyneb rhagddynt; byddant yn barod i'w difa, a daw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr. Y diwrnod hwnnw fe ddywedant, ‘Onid am nad yw ein Duw yn ein plith y daeth y drygau hyn i'n rhan?’