Deuteronomium 30:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Daw'r ARGLWYDD dy Dduw â thi i'r wlad a feddiannodd dy hynafiaid, a byddi dithau'n ei meddiannu; bydd ef yn dy lwyddo ac yn dy wneud yn fwy niferus na'th hynafiaid.

6. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn enwaedu dy galon, a chalonnau dy ddisgynyddion, er mwyn iti garu yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid, fel y byddi fyw.

7. A bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn gosod yr holl felltithion hyn ar dy elynion a'th gaseion, a fu'n dy erlid.

8. Byddi di unwaith eto'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD ac yn cadw ei holl orchmynion, y rhai yr wyf fi'n eu rhoi iti heddiw.

Deuteronomium 30