Deuteronomium 28:52-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

52. Bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy dy holl wlad, nes y bydd pob un o'th furiau uchel, yr wyt yn ymddiried ynddynt i'th amddiffyn, yn cwympo; ie, bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy'r holl wlad a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.

53. Oherwydd y cyni a achosir iti gan warchae dy elyn, byddi'n bwyta ffrwyth dy gorff dy hun, cnawd dy feibion a'th ferched, a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.

54. Bydd y dyn mwyaf tyner a theimladwy yn eich plith yn gwarafun rhoi i'w frawd, nac i wraig ei fynwes nac i weddill ei blant sydd ar ôl,

55. ddim o gig ei blant y mae'n ei fwyta, rhag iddo fod heb ddim yn y cyni a achosir ym mhob dinas gan warchae dy elyn.

56. Bydd y ddynes fwyaf tyner a mwyaf teimladwy yn eich plith, un mor deimladwy a thyner fel na fentrodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, yn gwarafun rhoi i ŵr ei mynwes, nac i'w mab na'i merch,

57. ran o'r brych a ddisgyn o'i chroth, na'r baban a enir iddi; ond bydd hi ei hun yn ei fwyta'n ddirgel, am nad oes dim i'w gael yn y cyni a achosir yn dy holl ddinasoedd gan warchae dy elyn.

58. Os na fyddi'n gofalu cyflawni holl ofynion y gyfraith hon, a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn, a pharchu'r enw gogoneddus ac arswydus hwn, sef enw yr ARGLWYDD dy Dduw,

59. yna bydd yr ARGLWYDD yn trymhau ei blâu anhygoel arnat ti ac ar dy epil, plâu trymion a chyson, a heintiau difrifol a pharhaus.

60. Bydd yn dwyn arnat eto holl glefydau'r Aifft a fu'n peri braw iti, a byddant yn glynu wrthyt.

Deuteronomium 28