Deuteronomium 28:23-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Bydd yr wybren uwch dy ben yn bres, a'r ddaear oddi tanat yn haearn.

24. Bydd yr ARGLWYDD yn troi glaw dy dir yn llwch a lludw, a hynny'n disgyn arnat o'r awyr nes dy ddifa.

25. Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddryllio o flaen d'elynion; byddi'n mynd allan yn eu herbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagddynt ar hyd saith, a bydd hyn yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear.

26. Bydd dy gelain yn bwydo holl adar yr awyr a bwystfilod y ddaear, heb neb i'w tarfu.

27. Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro â chornwyd yr Aifft a chornwydydd gwaedlyd, â chrach ac ysfa na fedri gael iachâd ohonynt.

28. Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro â gwallgofrwydd, dallineb a dryswch meddwl;

29. a byddi'n ymbalfalu ar hanner dydd, fel y bydd y dall yn ymbalfalu mewn tywyllwch, heb lwyddo i gael dy ffordd. Cei dy orthrymu a'th ysbeilio'n feunyddiol heb neb i'th achub.

30. Er iti ddyweddïo â merch, dyn arall fydd yn ei chymryd; er iti godi tŷ, ni fyddi'n byw ynddo; ac er iti blannu gwinllan, ni chei'r ffrwyth ohoni.

31. Lleddir dy ych yn dy olwg, ond ni fyddi'n cael bwyta dim ohono; caiff dy asyn ei ladrata yn dy ŵydd, ond nis cei yn ôl; rhoddir dy ddefaid i'th elynion, ac ni fydd neb i'w hadfer iti.

32. Rhoddir dy feibion a'th ferched i bobl arall, a thithau'n gweld ac yn dihoeni o'u plegid ar hyd y dydd, yn ddiymadferth.

33. Bwyteir cynnyrch dy dir a'th holl lafur gan bobl nad wyt yn eu hadnabod, a chei dy orthrymu a'th ysbeilio'n feunyddiol,

34. nes bod yr hyn a weli â'th lygaid yn dy yrru'n wallgof.

35. Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro â chornwydydd poenus, na ellir eu gwella, ar dy liniau a'th goesau, ac o wadn dy droed hyd dy gorun.

36. Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddanfon di, a'r brenin y byddi'n ei osod arnat, at genedl na fu i ti na'th gyndadau ei hadnabod; ac yno byddi'n gwasanaethu duwiau estron o bren a charreg.

37. Byddi'n achos syndod, yn ddihareb ac yn gyff gwawd ymysg yr holl bobloedd y bydd yr ARGLWYDD yn dy ddanfon atynt.

38. Er iti fynd â digonedd o had i'r maes, ychydig a fedi, am i locustiaid ei ysu.

39. Byddi'n plannu gwinllannoedd ac yn eu trin, ond ni chei yfed y gwin na chasglu'r grawnwin, am i bryfetach eu bwyta.

40. Bydd gennyt olewydd trwy dy dir i gyd, ond ni fyddi'n dy iro dy hun â'r olew, oherwydd bydd dy olewydd yn colli eu ffrwyth.

41. Byddi'n cenhedlu meibion a merched, ond ni chei eu cadw, oherwydd fe'u cludir i gaethiwed.

42. Bydd locustiaid yn difa pob coeden fydd gennyt a chynnyrch dy dir.

43. Bydd y dieithryn yn eich mysg yn dal i godi'n uwch ac yn uwch, a thithau'n disgyn yn is ac yn is.

Deuteronomium 28