Deuteronomium 23:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Nid yw putain na gwrywgydiwr i ddod â'u tâl i dŷ'r ARGLWYDD dy Dduw i dalu unrhyw adduned, oherwydd y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

19. Nid wyt i godi llog ar un o'th dylwyth am fenthyg arian, na bwyd, na dim arall a roir ar fenthyg.

20. Cei godi llog ar yr estron, ond nid ar un o'th dylwyth, er mwyn iti dderbyn bendith gan yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth y byddi'n ei wneud yn y wlad yr wyt ar ddod i'w meddiannu.

Deuteronomium 23