Deuteronomium 22:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Pan fyddi'n adeiladu tŷ newydd, gwna ganllaw o amgylch y to, rhag i'th dŷ fod yn achos marwolaeth, petai rhywun yn syrthio oddi arno.

9. Nid wyt i hau hadau gwahanol yn dy winllan, rhag i'r cwbl gael ei fforffedu i'r cysegr, sef yr had a heuaist a chynnyrch y winllan hefyd.

10. Nid wyt i aredig gydag ych ac asyn ynghyd.

11. Nid wyt i wisgo dilledyn o frethyn cymysg o wlân a llin.

Deuteronomium 22