Deuteronomium 20:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. A phwy bynnag sydd wedi plannu gwinllan ond heb fwynhau ei ffrwyth, aed yn ei ôl adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei fwynhau.

7. A phwy bynnag sydd wedi dyweddïo â merch ond heb ei phriodi, aed yn ei ôl adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei phriodi.”

8. Wedyn y mae'r swyddogion i ddweud ymhellach wrth y fyddin, “Pwy bynnag sy'n ofnus ac yn wangalon, aed yn ei ôl adref, rhag iddo wanhau calonnau ei frodyr yr un modd.”

9. Wedi i'r swyddogion orffen annerch y fyddin, byddant yn gosod capteiniaid dros luoedd y fyddin.

10. Pan fyddi ar fin brwydro yn erbyn tref, cynnig delerau heddwch iddi.

Deuteronomium 20