Deuteronomium 20:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn dy elynion, ac yn canfod meirch a cherbydau a byddin, a'r rheini'n gryfach na'th rai di, paid â'u hofni, oherwydd gyda thi y mae yr ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft.

2. Wrth iti ddynesu i'r frwydr, y mae'r offeiriaid i ddod ymlaen ac annerch y fyddin,

3. a dweud wrthynt, “Gwrandewch, Israel, yr ydych ar fin ymladd brwydr yn erbyn eich gelynion; peidiwch â gwangalonni nac ofni, na dychryn nac arswydo rhagddynt,

Deuteronomium 20