Deuteronomium 2:7-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio yn y cyfan a wnaethost, ac wedi gwylio dy daith yn yr anialwch mawr hwn; am y deugain mlynedd hyn bu'r ARGLWYDD dy Dduw gyda thi, ac ni fu arnat eisiau dim.”

8. Yna aethom oddi wrth ein perthnasau, tylwyth Esau, a oedd yn byw yn Seir, ac o ffordd yr Araba, ac o Elath ac Esion-geber, a throi i gyfeiriad anialwch Moab.

9. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf eto, “Paid â chythruddo'r Moabiaid, na bygwth ymladd yn eu herbyn, oherwydd ni roddaf feddiant i ti o'u tir, am fy mod wedi rhoi Ar yn feddiant i dylwyth Lot.”

10. Cyn hynny yr oedd yr Emim, dynion mawr, niferus a thal fel yr Anacim, yn byw yno.

11. Ystyrid hwythau'n Reffaim fel yr Anacim, ond bod y Moabiaid yn eu galw'n Emim.

12. A hefyd yn yr amser gynt yr oedd yr Horiaid yn byw yn Seir, ond cymerodd tylwyth Esau eu tiriogaeth a'u difa hwy o'u blaen, a byw yno yn eu lle, fel y gwnaeth yr Israeliaid yn y tir a roddodd yr ARGLWYDD yn feddiant iddynt.

13. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Yn awr paratowch i groesi nant Sared.” Felly aethom dros nant Sared.

14. Cymerodd ddeunaw mlynedd ar hugain inni deithio o Cades-barnea nes croesi nant Sared; erbyn hynny yr oedd y cyfan o genhedlaeth y rhyfelwyr wedi darfod o'r gwersyll, fel y tyngodd yr ARGLWYDD wrthynt.

15. Yn wir yr oedd llaw'r ARGLWYDD yn eu herbyn, i'w difa'n llwyr o'r gwersyll.

16. Wedi marw y cyfan o'r rhyfelwyr o blith y bobl,

17. dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,

18. “Heddiw yr wyt i groesi terfyn Moab yn ymyl Ar.

19. Pan ddoi at ffin yr Ammoniaid, paid â'u cythruddo na'u bygwth, oherwydd ni roddaf feddiant o'u tir i ti, am fy mod wedi ei roi yn feddiant i dylwyth Lot.”

20. (Ystyrid hwn hefyd yn dir y Reffaim, am mai'r Reffaim oedd yn byw yno yn yr amser gynt, ond yr oedd yr Ammoniaid yn eu galw'n Samsumim.

21. Yr oeddent hwy yn ddynion mawr, niferus a thal fel yr Anacim; ond fe ddifawyd y Reffaim gan yr ARGLWYDD, a chymerodd yr Ammoniaid feddiant o'u tir, a byw yno.

22. Gwnaeth yr ARGLWYDD yr un fath i feibion Esau oedd yn byw yn Seir, pan ddifaodd yr Horiaid o'u blaen, a chymerasant hwythau feddiant o'u tir, a byw yno hyd heddiw.

23. Y Cafftorim a ymfudodd o Cafftor a ddifaodd yr Afiaid oedd yn byw yn y pentrefi yn ymyl Gasa, ac yna byw yn eu tiriogaeth.)

24. “Cychwynnwch yn awr ar eich taith, a chroeswch nant Arnon. Edrych, yr wyf yn rhoi Sihon yr Amoriad, brenin Hesbon, a'i wlad yn dy law. Dos ati i'w meddiannu, ac ymosod arno.

25. Heddiw fe ddechreuaf wneud i'r holl bobloedd dan y nefoedd ofni ac arswydo o'th flaen; pan glywant sôn amdanat, byddant yn crynu ac yn arswydo o'th flaen.”

Deuteronomium 2