Deuteronomium 18:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. oherwydd dyna oedd dy ddeisyfiad gan yr ARGLWYDD dy Dduw yn Horeb ar ddydd y cynulliad, pan ddywedaist, “Nid wyf am glywed llais yr ARGLWYDD fy Nuw rhagor, na gweld eto y tân mawr hwn, rhag imi farw.”

17. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Y mae'r hyn a ddywedant yn iawn;

18. codaf iddynt o blith eu cymrodyr broffwyd fel ti, a rhof fy ngair yn ei enau, er mwyn iddo fynegi iddynt y cwbl y byddaf yn ei orchymyn iddo.

19. A phwy bynnag fydd heb wrando ar fy ngeiriau, y bydd y proffwyd wedi eu llefaru yn f'enw, bydd yn atebol i mi am hynny.

20. Ond am y proffwyd fydd yn rhyfygu llefaru yn f'enw air nad wyf fi wedi ei orchymyn, neu sy'n llefaru yn enw duw arall, y mae'r proffwyd hwnnw i farw.”

21. Os wyt yn gofyn i ti dy hun sut y mae adnabod y gair nad yw'r ARGLWYDD wedi ei lefaru:

Deuteronomium 18