Deuteronomium 16:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ni chei ladd offrwm y Pasg o fewn yr un o'r trefi y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi iti,

6. ond yn unig yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw. Yno yr wyt i ladd offrwm y Pasg gyda'r hwyr, ar fachlud haul, yr amser y daethost allan o'r Aifft.

7. Byddi'n ei ferwi a'i fwyta yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis; yna yn y bore byddi'n troi'n ôl ac yn dychwelyd adref.

8. Am chwe diwrnod byddi'n bwyta bara croyw, ond ar y seithfed dydd bydd cynulliad terfynol i'r ARGLWYDD dy Dduw; nid wyt i wneud dim gwaith arno.

Deuteronomium 16