Deuteronomium 16:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yr wyt i aberthu offrwm Pasg i'r ARGLWYDD dy Dduw o'th ddefaid neu o'th wartheg, yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis yn drigfan i'w enw.

3. Nid wyt i fwyta gydag ef ddim wedi ei lefeinio; ond am saith diwrnod yr wyt i fwyta bara croyw, bara cystudd, oherwydd ar frys y daethost allan o wlad yr Aifft. Gwna hyn er mwyn iti gofio tra byddi byw y dydd y daethost allan o wlad yr Aifft.

4. Ni chaniateir surdoes o fewn dy holl derfynau am saith diwrnod, ac nid oes dim o'r cig a leddaist gyda'r hwyr ar y dydd cyntaf i aros tan y bore.

Deuteronomium 16