Deuteronomium 16:10-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yna byddi'n dathlu gŵyl yr Wythnosau i'r ARGLWYDD dy Dduw, gan roi offrwm gwirfodd drosot dy hun yn ôl fel y bydd yr ARGLWYDD wedi dy fendithio.

11. Byddi'n llawenhau gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, ti, dy fab a'th ferch, dy gaethwas a'th gaethferch, y Lefiad sydd yn dy drefi a'r dieithryn, a'r amddifad a'r weddw sydd gyda thi, yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw.

12. Cofia mai caethwas fuost ti yn yr Aifft, a bydd yn ofalus i gadw'r rheolau hyn.

13. Yr wyt i gadw gŵyl y Pebyll am saith diwrnod wedi iti gasglu cynnyrch dy lawr dyrnu a'th winwryf;

14. a byddi'n llawenhau ar dy ŵyl, ti, dy fab a'th ferch, dy gaethwas a'th gaethferch, y Lefiad a'r dieithryn, a'r amddifad a'r weddw sydd yn dy drefi.

15. Am saith diwrnod y byddi'n cadw gŵyl i'r ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl gynnyrch ac ym mhopeth a wnei, a byddi'n wirioneddol lawen.

16. Teirgwaith y flwyddyn y mae dy holl wrywod i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis, sef ar ŵyl y Bara Croyw, ar ŵyl yr Wythnosau ac ar ŵyl y Pebyll. Nid yw neb i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD yn waglaw,

17. ond dylai pob un roi yn ôl ei allu, yn ôl y fendith a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.

18. Yr wyt i benodi barnwyr a phenaethiaid ym mhob un o'r trefi a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i'th lwythau, ac y maent i farnu'r bobl yn gyfiawn.

19. Nid wyt i wyro barn na dangos ffafriaeth; nid wyt i gymryd llwgrwobr, oherwydd y mae'n dallu llygaid y doeth ac yn gwyro geiriau'r cyfiawn.

20. Cyfiawnder yn unig a ddilyni, er mwyn iti gael byw ac etifeddu'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw am ei rhoi iti.

21. Paid â phlannu unrhyw fath o bren Asera gerllaw yr allor a godi i'r ARGLWYDD dy Dduw.

22. A phaid â chodi un o'r colofnau sy'n atgas gan yr ARGLWYDD dy Dduw.

Deuteronomium 16