Deuteronomium 15:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. A phan fyddi'n ei ryddhau, paid â'i anfon i ffwrdd yn waglaw;

14. rho iddo gynhysgaeth hael o'th ddefaid a'th lawr dyrnu a'th winwryf, fel y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio di.

15. Cofia mai caethwas fuost tithau yng ngwlad yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi dy waredu. Dyna pam yr wyf yn gorchymyn hyn iti heddiw.

16. Ond os dywed dy was wrthyt na fyn ymadael â thi am ei fod yn hoff ohonot ti a'th deulu, a'i bod yn dda arno gyda thi,

Deuteronomium 15