Datguddiad 8:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Seiniodd yr ail angel ei utgorn. Yna taflwyd i'r môr rywbeth tebyg i fynydd mawr yn llosgi'n dân. Trodd traean o'r môr yn waed,

9. a bu farw traean o greaduriaid byw y môr, a dinistriwyd traean o'r llongau.

10. Seiniodd y trydydd angel ei utgorn. Yna syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl; syrthiodd ar draean o'r afonydd ac ar ffynhonnau'r dyfroedd.

11. Enw'r seren yw Wermod, a throdd traean o'r dyfroedd yn wermod, a bu farw llawer o bobl o achos chwerwi'r dyfroedd.

12. Seiniodd y pedwerydd angel ei utgorn. Yna trawyd traean o'r haul a thraean o'r lleuad a thraean o'r sêr, nes tywyllu traean ohonynt, ac ni bu dim golau am draean o'r dydd, a'r un modd am draean o'r nos.

Datguddiad 8