8. Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan dân a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth.”
9. Daeth un o'r saith angel oedd â'r saith ffiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diwethaf, a siaradodd â mi. “Tyrd,” meddai, “dangosaf iti'r briodferch, gwraig yr Oen.”
10. Ac aeth â mi ymaith yn yr Ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi'r ddinas sanctaidd, Jerwsalem, yn disgyn o'r nef oddi wrth Dduw,
11. a gogoniant Duw ganddi. Yr oedd ei llewyrch fel llewyrch gem dra gwerthfawr, fel maen iasbis, yn disgleirio fel grisial.
12. Yr oedd iddi fur mawr ac uchel a deuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau deuddeg llwyth plant Israel yn ysgrifenedig ar y pyrth.
13. Yr oedd tri phorth o du'r dwyrain, tri o du'r gogledd, tri o du'r de, a thri o du'r gorllewin.
14. I fur y ddinas yr oedd deuddeg carreg sylfaen, ac arnynt enwau deuddeg apostol yr Oen.
15. Yr oedd gan yr angel oedd yn siarad â mi ffon fesur o aur, i fesur y ddinas a'i phyrth a'i mur.