Datguddiad 2:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Ond y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, fod gennyt rai yna sy'n glynu wrth athrawiaeth Balaam, a ddysgodd i Balac osod magl i blant Israel, a pheri iddynt fwyta pethau a aberthwyd i eilunod, a phuteinio;

15. yn yr un modd, y mae gennyt tithau hefyd rai sy'n glynu wrth athrawiaeth y Nicolaiaid.

16. Edifarha felly; os na wnei, fe ddof atat yn fuan, a rhyfela yn eu herbyn hwy â chleddyf fy ngenau.

Datguddiad 2