Daniel 8:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. “Ac ar ddiwedd eu teyrnasiad,pan fydd y troseddwyr yn eu hanterth,fe gyfyd brenin creulon a chyfrwys.

24. Bydd ei nerth yn fawr,ac fe wna niwed anhygoel;fe lwydda yn yr hyn a wna,ac fe ddinistria'r cedyrn a phobl y saint.

25. Yn ei gyfrwystra fe wna i ddichell ffynnu;cynllunia orchestion yn ei galon,a heb rybudd fe ddinistria lawer.Heria dywysog y tywysogion,ond fe'i torrir i lawr heb gymorth llaw.

26. Y mae'r weledigaeth a roddwyd am yr hwyr a'r bore yn wir;ond cadw di'r weledigaeth dan sêl,am ei bod yn cyfeirio at y dyfodol pell.”

27. Yr oeddwn i, Daniel, wedi diffygio, a bûm yn glaf am ddyddiau. Yna codais i wasanaethu'r brenin, wedi fy syfrdanu gan y weledigaeth a heb ei deall.

Daniel 8