Daniel 6:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yna dywedodd y dynion hyn, “Ni fedrwn gael unrhyw achos yn erbyn y Daniel hwn os na chawn rywbeth ynglŷn â chyfraith ei Dduw.”

6. Felly aeth y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, “O Frenin Dareius, bydd fyw byth!

7. Y mae holl swyddogion y deyrnas, yn benaethiaid a llywodraethwyr, yn gynghorwyr a rhaglawiaid, yn unfryd â'i gilydd y dylai'r brenin wneud deddf a gorchymyn pendant fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn ymbil ar unrhyw dduw neu ddyn, ar wahân i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod.

8. Yn awr, O frenin, cadarnha'r gorchymyn ac arwydda'r ddogfen, fel na chaiff ei newid, yn ôl cyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid.”

Daniel 6