Daniel 2:17-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yna aeth Daniel i'w dŷ ac adrodd yr hanes wrth ei gyfeillion, Hananeia, Misael ac Asareia,

18. a'u hannog hwy i erfyn am drugaredd gan Dduw'r nefoedd ynglŷn â'r dirgelwch hwn, rhag i Daniel a'i gyfeillion gael eu difa gyda'r gweddill o ddoethion Babilon.

19. Datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos. Bendithiodd Daniel Dduw'r nefoedd, a dyma'i eiriau:

20. “Bendigedig fyddo enw Duw yn oes oesoedd;eiddo ef yw doethineb a nerth.

21. Ef sy'n newid amserau a thymhorau,yn diorseddu brenhinoedd a'u hadfer,yn rhoi doethineb i'r doeth a gwybodaeth i'r deallus.

22. Ef sy'n datguddio pethau dwfn a chuddiedig,yn gwybod yr hyn sydd yn dywyll;gydag ef y trig goleuni.

23. Diolchaf a rhof fawl i ti, O Dduw fy hynafiaid,am i ti roi doethineb a nerth i mi.Dangosaist i mi yn awr yr hyn a ofynnwyd gennym,a rhoi gwybod inni beth sy'n poeni'r brenin.”

24. Yna aeth Daniel at Arioch, a benodwyd gan y brenin i ladd doethion Babilon, a dweud wrtho, “Paid â difa doethion Babilon. Dos â fi at y brenin, a mynegaf y dehongliad iddo.”

25. Brysiodd Arioch i fynd â Daniel at y brenin, a dweud wrtho, “Cefais ddyn ymhlith alltudion Jwda a all roi'r dehongliad i'r brenin.”

26. Meddai'r brenin wrth Daniel, a alwyd yn Beltesassar, “A fedri di ddweud wrthyf beth oedd y freuddwyd a welais, a'i dehongli?”

27. Atebodd Daniel, “Nid oes doethion na swynwyr na dewiniaid na brudwyr a fedr ddehongli i'r brenin y dirgelwch y mae'n holi yn ei gylch;

28. ond y mae Duw yn y nefoedd sy'n datguddio dirgelion, ac ef sy'n dangos i'r Brenin Nebuchadnesar beth a ddigwydd yn y dyfodol. Dyma'r freuddwyd a'r gweledigaethau a gefaist yn dy wely:

29. Meddwl am y dyfodol yr oeddit ti, O frenin, yn dy wely; a mynegodd datguddiwr dirgelion iti beth sydd i ddod.

30. Ond rhoddwyd datguddiad o'r dirgelwch i mi, nid am fy mod yn ddoethach na neb arall, ond er mwyn mynegi'r dehongliad i'r brenin, a pheri iti ddeall dy feddyliau.

Daniel 2