Colosiaid 3:14-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd.

15. Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar.

16. Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.

17. Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.

18. Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr; hyn yw eich dyletswydd fel pobl yr Arglwydd.

19. Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, a pheidiwch â bod yn llym wrthynt.

20. Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth, oherwydd hyn sydd gymeradwy ym mhobl yr Arglwydd.

21. Chwi dadau, peidiwch â chythruddo eich plant, rhag iddynt ddigalonni.

22. Chwi gaethweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistri daearol, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond mewn unplygrwydd calon yn ofn yr Arglwydd.

Colosiaid 3