Colosiaid 2:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Os buoch farw gyda Christ i ysbrydion elfennig y cyfanfyd, pam yr ydych, fel petaech yn byw o hyd yn y byd, yn ymddarostwng i orchmynion:

21. “Peidiwch â chyffwrdd”, “Peidiwch â blasu”, “Peidiwch â thrafod”—

22. a hynny ynglŷn â phethau sydd i gyd yn darfod wrth eu defnyddio? Dilyn rheolau ac athrawiaethau dynol yr ydych.

Colosiaid 2