Caniad Solomon 6:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Tro dy lygaid oddi wrthyf,y maent yn fy nghyffroi;y mae dy wallt fel diadell o eifryn dod i lawr o Fynydd Gilead.

6. Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaidyn dod i fyny o'r olchfa,y cwbl ohonynt yn efeilliaid,heb un yn amddifad.

7. Y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlaisfel darn o bomgranad.

8. Er bod trigain o freninesaua phedwar ugain o ordderchwragedd,a llancesau na ellir eu rhifo,

9. y mae fy ngholomen, yr un berffaith,ar ei phen ei hun,unig blentyn ei mam,y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni.Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd,ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori.

Caniad Solomon 6