Caniad Solomon 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bob nos ar fy ngwelyceisiais fy nghariad;fe'i ceisiais, ond heb ei gael.

2. Mi godais, a mynd o amgylch y dref,trwy'r heolydd a'r strydoedd;chwiliais am fy nghariad;chwilio, ond heb ei gael.

3. Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod,wrth iddynt fynd o amgylch y dref,a gofynnais, “A welsoch chwi fy nghariad?”

4. Ymhen ychydig wedi imi eu gadael,fe gefais fy nghariad;gafaelais ynddo, a gwrthod ei ollwngnes ei ddwyn i dŷ fy mam,i ystafell yr un a esgorodd arnaf.

Caniad Solomon 3