Caniad Solomon 2:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnochyn enw iyrchod ac ewigod y maes.Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariadnes y bydd yn barod.

8. Ust! dyma fy nghariad,dyma ef yn dod;y mae'n neidio ar y mynyddoedd,ac yn llamu ar y bryniau.

9. Y mae fy nghariad fel gafrewig,neu hydd ifanc;dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur,yn edrych trwy'r ffenestri,ac yn syllu rhwng y dellt.

10. Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf,“Cod yn awr, f'anwylyd,a thyrd, fy mhrydferth;

Caniad Solomon 2