Caniad Solomon 2:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig,yng nghysgod y clogwyni,gad imi weld dy wyneb,a chlywed dy lais,oherwydd y mae dy lais yn swynol,a'th wyneb yn brydferth.

15. Daliwch inni'r llwynogod,y llwynogod bychain,sy'n difetha'r gwinllannoeddpan yw'r blodau ar y gwinwydd.

16. Y mae fy nghariad yn eiddo i mi,a minnau'n eiddo iddo ef;y mae'n bugeilio'i braidd ymysg y lilïau.

Caniad Solomon 2